Leviticus 13

Clefyd ar y croen

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron, 2“Pan mae gan rywun chwydd neu rash neu smotyn wedi troi'n llidiog ar y croen, gall fod yn arwydd o glefyd heintus. Rhaid mynd â'r person hwnnw at offeiriad, sef Aaron neu un o'i ddisgynyddion. 3Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.

4“Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod. 5Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall. 6Wedyn os fydd e wedi gwella ychydig, a heb ledu, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Dim ond rash ydy e. Rhaid iddo olchi ei ddillad a bydd yn lân.

7“Os bydd y rash yn dod yn ôl ac yn lledu wedyn, rhaid mynd at yr offeiriad eto. 8Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os ydy'r rash wedi lledu, bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.

9“Pan mae gan rywun afiechyd ar y croen rhaid mynd â'r person hwnnw at yr offeiriad 10i'w archwilio. Os ydy'r smotyn yn wyn, y briw wedi casglu, a'r blew wedi troi'n wyn, 11mae'n afiechyd parhaol ar y croen, ac mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Waeth heb ei gadw ar wahân am gyfnod. Mae e'n aflan. 12Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân. 14Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.

16“Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.

18“Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad. 20Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol. 21Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.

22“Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. 23Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân.

24“Pan mae rhywun wedi llosgi ei hun, ac mae'r cnawd ble mae'r llosg wedi troi'n goch neu'n smotyn gwyn, 25rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Mae wedi torri allan o'r llosg, a rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. 26Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen ac fel petai'n gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod. 27Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus. 28Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, ac fel petai'n gwella ychydig, dim ond chwydd o ganlyniad i'r llosg ydy e. Bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân, am mai dim ond craith sy'n ganlyniad i'r llosg ydy e.

29“Os oes gan rywun friw wedi troi'n ddrwg ar y pen neu'r gên, 30rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r gên. 31Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod. 32Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal yn edrych ddim dyfnach na'r croen, 33rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto. 34Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i edrych ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân. 35Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân 36rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan. 37Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân.

38“Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn, 39rhaid i offeiriad ei archwilio. Os ydy'r smotiau yn lliw gwelw dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân.

40“Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân. 42Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel mae'n glefyd heintus sy'n lledu. 43Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff, 44rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.

45“Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo ei ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’ 46Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.

Llwydni

47“Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad. 50Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod. 51Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod mae'r eitem wedi ei ddifetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei bwrpas rhaid iddo gael ei losgi.

53“Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu, 54rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall. 55Wedyn bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan – hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn. 56Ond os ydy'r marc ddim mor amlwg ar ôl iddo gael ei olchi rhaid torri'r darn hwnnw i ffwrdd. 57Ond wedyn, os ydy'r llwydni'n dod yn ôl, rhaid llosgi'r dilledyn neu beth bynnag oedd yr eitem o ledr. 58Os ydy'r marc wedi diflannu'n llwyr ar ôl cael ei olchi, dylid ei olchi eto ac wedyn bydd yn lân.

59“Dyma'r drefn wrth benderfynu os ydy dilledyn, neu unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, yn lân neu'n aflan pan mae llwydni wedi ymddangos arno.”

Copyright information for CYM